Mae Golwg Arall Wedi Cau Lawr
Diweddariad: 16 Tachwedd 2009 - O'r diwedd mae gwefan Golwg 360 wedi darparu porthiant RSS eu hunain, chwe mis ar ôl lansio! Llongyfarchiadau iddyn nhw. Mi fydd Golwg Arall nawr yn cau am byth. Ewch draw i Golwg 360 i danysgrifio.
Fe ddatblygwyd y wefan yma i ddangos cynnwys newyddion Golwg 360 mewn ffurf mwy hygyrch. Roedd yn goresgyn nifer o ddiffygion yng ngwefan Golwg yn cynnwys dylunio gwael, problemau technegol di-ri a diffyg porthiant RSS. Nid yw gwefan Golwg 360 yn dilyn 'arfer gorau' o ran adeiladu gwefannau a mae e hefyd yn groes i gyfraith gwlad o ran hygyrchedd (Deddfau Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2005)
Fe lansiwyd Golwg 360 ar Fai 15fed 2009. Ar Fai 16/17 fe es i ati i ddatblygu sgriptiau oedd yn crafu'r storïau newyddion oddi ar wefan Golwg a'i roi mewn cronfa ddata WordPress.
Ers hynny mae nifer fawr o ymwelwyr wedi ymweld a'r wefan yma yn gyson a dros 70 o bobl wedi cymeryd mantais o'r porthiant RSS sy'n eu galluogi nhw i ddarllen newyddion Golwg 360 mewn pob math o ffyrdd yn cynnwys ar ffonau symudol. Mae e hefyd yn cynnig ffordd o rannu penawdau Golwg 360 ar wefannau Cymraeg arall.
Rwy' wedi penderfynu cau y brif wefan i lawr er mwyn parchu hawlfraint y testun a lluniau sydd yng nghwefan Golwg 360. Er hyn mi fydd y porthiant RSS yn parhau fel gwasanaeth cyhoeddus nes i wefan swyddogol Golwg gynnig yr un gwasanaeth.
Os hoffech chi gysylltu â fi ynglyn a'r wefan yma, defnyddiwch y ffurflen yma.
Dafydd Tomos, 21 Mai 2009