Trwsio Golwg 360
Ydych chi'n cael trafferthion gyda gwefan Golwg 360, lle mae'r dudalen yn ymddangos yn wag neu adrannau cyfan yn diflannu oddi ar y fwydlen? Falle dyma'r ateb i chi!
Dyma sgript llyfrnod (bookmarklet) syml iawn i glirio cwcis ar un wefan yn unig heb cael orfod clirio popeth yn eich porwr.
- Ychwanegwch y ddolen yma - Clirio Cwcis - i'ch ffefrynnau,
- Yna, ewch i wefan Golwg 360.
- Agorwch y rhestr ffefrynnau a chliciwch ar 'Clirio Cwcis'. Fe ddylai ffenest ymddangos yn dweud 'Cliriwyd 1 cwci'.
- Nawr allwch fynd yn eich blaen i Hafan Golwg 360 a gobeithio fe fydd y wefan yn gweithio i chi.
Os yw'n dweud 'Cliriwyd 0 cwci', triwch eto ar ôl mynd i'r Hafan. Os yw e dal yn dweud '0' mae'n debygol iawn eich bod chi'n gwrthod cwcis ar gyfer y wefan. Mae'n rhaid derbyn cwcis i'r wefan weithredu yn gywir (dyw hyn ddim yn beth da).
Yn Firefox, gallwch llusgo y ddolen i'r bar llyfrnodau, ac yn Internet Explorer, mae'n bosib ei ychwanegu i'r bar ffefrynnau.